Ble mae Cymraeg yn cael ei siarad?

Moderator:kevin

Randybvain
Posts:4
Joined:2011-08-22, 21:15
Gender:male
Location:Cheltenham
Country:GBUnited Kingdom (United Kingdom)
Ble mae Cymraeg yn cael ei siarad?

Postby Randybvain » 2011-12-29, 13:49

Dw i'n chwilio am dre neu ddinas lle mae Cymraeg yn cael ei siarad gan bobl ar y stryd, y dafarn neu mewn siopau. Dw i wedi ymweld â rhai llefydd ledled Cymru ond mae'r bobl yn siarad Saesneg bob man. :cry:
Hoffwn i ymarfer fy Nghymraeg gyda siaradwyr brodorol, wrth gwrs.

YngNghymru
Posts:1537
Joined:2009-05-21, 10:08
Location:Wrexham (Wrecsam)
Country:GBUnited Kingdom (United Kingdom)

Re: Ble mae Cymraeg yn cael ei siarad?

Postby YngNghymru » 2011-12-29, 14:37

Yn y Gogledd-Orllewin, doi di o hyd i lawer o lefydd bychain lle y medri di siarad y Gymraeg mewn siopau a mewn cyd-destunau cymdeithasol eraill. Mae rhaid mynd i drefi bach neu bentrefi, ond mae'n bosib eu ffeindio. Mi fedri di anghofio am ddod o hyd i bobl yn siarad y Gymraeg yma yng Nghaerdydd - mae'r rhan fwyaf o'r bobl sydd yn byw yno'n medru dim ond y Saesneg, gweli di, felly dydy'r Gymraeg yn cael ei siarad ar wahân mewn sefyllyfaoedd mwy preifat - yn y tŷ, neu ar y stryd rhwng ffrindiau ayyb.
[flag]en[/flag] native| [flag]cy[/flag] mwy na chdi | [flag]fr[/flag] plus d'un petit peu| [flag]ar[/flag] ليتي استطعت

ég sef á sófanum!

Randybvain
Posts:4
Joined:2011-08-22, 21:15
Gender:male
Location:Cheltenham
Country:GBUnited Kingdom (United Kingdom)

Re: Ble mae Cymraeg yn cael ei siarad?

Postby Randybvain » 2011-12-29, 23:00

Iawn. Dw i newydd ddychwelyd o'r blesertaith i Bwllheli a Chricieth a doedd neb siarad Cymraeg yno ar y stryd neu mewn siopau. :( Wrth gwrs, y blesertaith fer oedd hi, basai hi'n dwp i farnu. Ces i un sgwrs bach ym Machynlleth yn unig...
Dw i'n gwybod am gyfarfodydd yng Nghaerdydd lle mae pobl yn siarad Cymraeg, ond yn anffodus maen nhw'n digwydd yng ghanol o wythnos felly dw i ddim yn gallu yn eu gweini achos dw i'n byw yn Swydd Gaerloyw.
Dw i ddim yn dda gyda'r ddeallwriaeth lafar eto, felly mae hi'n well i fi siarad wyneb i wyneb na siarad drwy Skype er enghraifft. :oops:

hwyl
Posts:25
Joined:2006-12-29, 14:55
Real Name:iago
Gender:male
Location: Caerdydd, Cymru
Country:GBUnited Kingdom (United Kingdom)

Re: Ble mae Cymraeg yn cael ei siarad?

Postby hwyl » 2012-03-31, 15:17

Mae mwy neu lai pawb o'r 'bobl leol' yn siarad Cymraeg mewn ardal fawr iawn ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd, Ynys Mon a rhannau o Sir Ddinbych, Conwy, Powys a Gogledd Sir Benfro. OND yn anffodus, Saeson sy'n berchen ar y siopiau, tafarnau, gwersyllfeydd, llety, ac ati. Felly os ydych chi'n dod fel twrist, dyna'r llefydd lle rydych chi'n mynd i ddechrau sgwrs. Dw i'n deall sut rydych chi'n teimlo. Bob tro dw i'n mynd i'r 'Fro Gymraeg', mae'n anodd dod ar draws Cymry.

Yn bendant, mae pawb sy'n 'lleol' yn siarad Cymraeg ym Mhwllheli a Chricieth...ond dim y nhw yw'r bobl sy'n rhedeg y siopiau neu gerdded ar y stydoedd. Y lle gorau i fynd, dw i'n credu yw Caernarfon. Mae hi wastad yn teimlo fel y lle Cymraegaf sydd ar ol. Ond efallai cewch chi broblem deall beth maen nhw'n ddweud! Yn y de, mae Castell Newydd Emlyn neu Aberteifi'n dda.


Return to “Celtic Languages”

Who is online

Users browsing this forum: No registered users and 5 guests